Grŵp TTC yw’r arbenigwr addysg a datblygu mwyaf blaenllaw yr DU. Rydym yn gweithio gyda busnesau a chyrff y sector cyhoeddus a phreifat sy’n cynabod pwysigrwydd gwella gwybodaeth bersonol a phrofesyionol, atebolrwydd a chyfrifoldeb
Fel rhan o’r cynllun ehangach hwn mae gan TTC arbenigedd heb ei ail mewn gweithio gyda’r llysoedd , Yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol i gyflwyno cyrsiau ail-addysg a gyfeirwyd gan yr heddlu a’r llysoedd. Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno o dan nawdd Cynllun Gyrwyr y Llywodraeth Ailhyfforddi Troseddwyr Cenedlaethol (NDORS) fel dewis arall i fynd i’r llys ar ôl trosedd.
Nid yw’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig mewn pob amgylchiadau; mae’n rhaid i’r trosedd gyd-fynd â pharamedrau wedi’u gosod gan y Llywodraeth i fod yn gymwys. Dyna pam nad ydych yn gymwys yn awtomatig am Gwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder.
Mae’r Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Cenedlaethol yn cael eu dylunio a chyflwyno i fod yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol, ac i ganolbwytio ar newid ymddygiad. Amcan y cyrsiau a gyfeirwyd gan yr heddlu yw gwneud i’r gyrwyr gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a’u heffaith posibl gan helpu’r gyrrwr i wneud penderfyniadau gwell a chyda mwy o wybodaeth yn y dyfodol.
Dim ond un o’r cyrsiau y gallwch ei fynychu os ydych wedi eich cyfeirio gan yr heddlu yn dilyn trosedd gyrru perthnasol, ond, fel darparwr blaenllaw hyfforddiant mae TTC yn cyflwyno ystod cyfan o gyrsiau diogelwch yn y gweithle ac ar y ffyrdd ar gyfer busnesau, cyrff, Awdurdodau Lleol, ysgolion a cholegau gyda nod o wella diogelwch ar y ffyrdd i bawb. I gael mwy o wybodaeth am Diogelwch yn y Gweithle ar ar y ffyrdd ewch i’n gwefan.
Mae’r cyrsiau wedi’u cynnig gan TTC o dan y cynllun gyrwyr cenedlaethol ailhyfforddi troseddwyr (NDORS) yn cynnwys Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol, Ymwybyddiaeth Cyflymder 20mya, Beth sy’n ein gyrru ni, Gyrru dros Newid, Effrogarwch Gyrwyr, RIDE ( Profiad ymyrru a datblygu ar gyfer beicwyr) ac Ymwybyddiaeth Gwregys Diogelwch.