Ffyrdd diogelach drwy addysgu gywyr
Arbenigwyr cenedlaethol mewn addysgu gywyr

 

Mapiau Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder ar gyfer De a Chanol Cymru

Mae’n hysbys bod cyflymder neu gyflymder amhriodol yn cyfrannu at ganran arwyddocaol o bob gwrthdrawiad a chanran uwch o wrthdrawiadau mwy difrifol.

Bod blwyddyn mae cyflymder gormodol ac amhriodol yn lladd tua 1,200 o bobl ac yn anafu tua 100,000. Dyma’r cyfrannwr uchaf i glwyfedigion ar y ffordd.

Nod cyffredinol y cwrs yw archwilio a herio’r rhesymau pam bod pobl yn goryrru a helpu gyrwyr i ddatblygu strategaeth ymwybyddiaeth cyflymder bersonol i osgoi esgeulustra sy’n arwain at gamddefnyddio cyflymder yn y dyfodol.

Sut mae’r cyrsiau ymwybyddiaeth yn gweithio a phwy all ddod arnynt?

Bydd y cynllun hwn yn galluogi’r heddlu i gyfeirio modurwyr at waelod y raddfa oryrru at addysg yn hytrach na’r System Cosb Benodedig.

Mae nifer o gwnstabliaethau wedi mabwysiadu’r Cynllun Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol a grewyd i addysgu gyrwyr am beryglon gyrru ar gyflymder gormodol ac amhriodol.

Caiff unrhyw yrrwr a ganfyddir yn gyrru ar gyflymder addas i ardal yr heddlu ac sydd heb fod ar gwrs yn ystod y 3 blynedd diwethaf gynnig lle ar gwrs yn yr ardal lle cyflawnwyd y drosedd neu mewn ardal arall lle mabwysiadwyd y cynllun cenedlaethol.

Sefydlwyd y Cynllun Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol i roi cyfle i droseddwyr sy’n gyrru’n gyflymach na’r terfyn cyflymder i fynd ar gwrs ailaddysgu am effeithiau a pheryglon goryrru. Mae’r cwrs yn gyfle i yrrwr fynd ar gwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder yn hytrach na’r System Cosb Benodedig lle ceir dirwy a phwyntiau cosb ar eu trwydded.

Telerau ac amodau

Fel arall ffoniwch ni

Ffonio: 0845 270 4363

Investors in people Positive about disabled people BSI Registered ISO Certification National Training Awards Investor In Excellence